Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

CELG(4)-08-14 Papur 2                                                                                                               

 

Ymchwiliad Pwyllgor Craffu’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Fasnachu Pobl

 

Tystiolaeth Ategol Lesley Griffiths, AC, Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

 

1.  Cyfeiriad strategol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â masnachu pobl

 

1.1 Fel y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, fy nod yw cyflwyno ein hymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i wneud Cymru yn lle gelyniaethus i gaethwasiaeth a chydgysylltu’r gefnogaeth orau posib i oroeswyr y trosedd erchyll hwn.  Trwy wneud hynny, byddwn yn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.

 

1.2 Mae mynd i’r afael â chaethwasiaeth yn galw am ddull strategol o weithredu, mewn ffordd gydlynol, gan weithio ar draws ffiniau’r pedair Llywodraeth yn y DU. Mae ein hymateb ni yng Nghymru wedi’i gryfhau drwy benodi Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth.

 

1.3 Llywodraeth Cymru yw’r unig Lywodraeth yn y DU i benodi Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth. Roedd y swydd yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ac mae’n bodoli ers 4 Ebrill 2011. Stephen Chapman yw’r ail Gydgysylltydd a daeth i’r swydd ym mis Tachwedd 2012.

 

1.4 O safbwynt strategol, rwyf yn aelod o Grŵp Gweinidogol Rhyngadrannol y DU ar Gaethwasiaeth Modern. Cadeirir y Grŵp gan Weinidog y Swyddfa Gartref ar gyfer Caethwasiaeth Modern a Throseddu Cyfundrefnol ac mae’n cynnwys Gweinidogion o Adrannau eraill Llywodraeth Whitehall, Swyddfa Cymru a Swyddfa’r Alban, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Cymru. Mae’r Grŵp hwn yn goruchwylio ymdrechion y DU i ddileu caethwasiaeth.

 

1.6 Ar 17 Hydref 2013, mynychais Gyfarfod Eithriadol o’r Grŵp Gweinidogol Rhyngadrannol ar Gaethwasiaeth Modern yn 10 Stryd Downing, a gadeiriwyd gan y Prif Weinidog. Cyflwynodd y Prif Weinidog gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Bil Caethwasiaeth Modern y bwriedir ei gyflwyno ym mis Mai 2014. Dyma gynnwys arfaethedig y Bil:

 

·         Cadarnhau’r ddeddfwriaeth bresennol

·         Cyflwyno Comisiynydd Atal Caethwasiaeth

·         Cyflwyno gorchmynion atal masnachu

·         Cynyddu pwerau’r Heddlu i fynd ar fwrdd llongau ar y môr ac ymyrryd a rhoi cyfarwyddiadau

 

Dyma ystyriaethau anneddfwriaethol eraill i gryfhau ymrwymiad y DU i fynd i’r afael â chaethwasiaeth:

 

·         Tryloywder yng nghadwyni cyflenwi cwmnïau

·         Defnyddio asedau a atafaelir gan fasnachwyr i gefnogi gweithgareddau atal masnachu pobl

·         Gweddnewid y llywodraethu sy’n ymwneud ag atal caethwasiaeth drwy edrych ar ymarferoldeb cyflwyno rhwydwaith o gydgysylltwyr rhanbarthol i gefnogi’r Comisiynydd

·         Sefydlu tasglu rhithiol i gefnogi gweithrediadau atal masnachu pobl lleol a rhanbarthol

 

1.7 Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyflwyno’r mesurau newydd arfaethedig hyn, gan adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i gyflawni eisoes yng Nghymru.

 

1.8 Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio’n agos gyda’r pedwar Heddlu yng Nghymru, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau eraill sy’n rhoi’r gyfraith ar waith. Rwyf yn cyfarfod â Phrif Gwnstabliaid Cymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn rheolaidd ac, yn fy nghyfarfodydd  diweddaraf â hwy, gofynnais iddynt roi blaenoriaeth i gamau gweithredu i atal caethwasiaeth. 

 

1.9 Dylid nodi hefyd ein cyswllt ag Arweinydd Strategol Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru a Lloegr ar gyfer Troseddau Mudo a Materion Cysylltiedig, Shaun Sawyer, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfnaint a Chernyw, a chyda Jeff Farrar, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, sy’n arwain yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y pedwar Heddlu yng Nghymru’n cydweithio i roi sylw i gaethwasiaeth. 

 

1.10 Er mwyn codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth a chael yr Heddlu i chwarae mwy o ran mewn mynd i’r afael â’r troseddau hyn, ym mis Mawrth 2013, lansiodd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu ‘Operation Eagle’, menter barhaus i wella’r ymateb i fynd i’r afael â chaethwasiaeth, masnachu a throseddau mewnfudo cyfundrefnol. Amcan ‘Operation Eagle’ yw creu mwy o ymwybyddiaeth, sicrhau cynnydd yn y wybodaeth a dderbynnir a gwella’r cydgysylltu a’r camau gweithredu gan holl Heddluoedd Cymru a Lloegr. Mae pedwar Heddlu Cymru yn ymwneud â chamau gweithredu ataliol a rhagweithiol i atal caethwasiaeth. Mae Unigolion Cyswllt Strategol wedi cael eu dewis yn yr Heddluoedd i gyd i arwain ar wella ymateb yr Heddlu i gaethwasiaeth.  Ar fy rhan i, mae’r Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth yn gweithio’n agos gyda’r Unigolion Cyswllt hyn i sicrhau bod arferion da’n cael eu rhannu.

 

1.11 Fel ymateb i Adroddiad y Grŵp o Arbenigwyr ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl, ‘Concerning the implementation of the Council of Europe Convention on Action Against Trafficking in Human Beings by the United Kingdom 2012’, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno ac adeiladu ar yr argymhellion.

 

1.12 Fis Ionawr 2014, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad i dynnu sylw at Adroddiad Blynyddol Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Llywodraeth Cymru.  Mae’r adroddiad yn manylu ar y gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud yng Nghymru hyd yma ac rwyf wedi darparu copi i’r Pwyllgor hwn.

 

1.13 Yn fy Natganiad Ysgrifenedig, nodais hefyd y newid yn y derminoleg rydym yn ei defnyddio yn y maes hwn i sicrhau bod y gwaith rydym yn ei wneud yn cael ei ddeall yn llawn gan y cyhoedd a’n partneriaid.  Mae’r Cydgysylltydd Atal Masnachu Pobl yn cael ei alw’n Gydgysylltydd Atal Caethwasiaeth yn awr, mae dioddefwyr caethwasiaeth modern yn cael eu galw’n oroeswyr, ac mae’r rhai sy’n masnachu’n cael eu galw, yn syml, yn droseddwyr. Bydd y termau hyn yn cael eu derbyn a’u cydnabod yn eang o ganlyniad i’r Bil Caethwasiaeth Modern sydd i gael ei lunio ac maent yn cael eu defnyddio eisoes i ryw raddau gan y cyfryngau. Rwyf yn credu eu bod yn fwy ystyrlon ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i bobl o’r mater. Yn benodol, bydd yn gwahaniaethu’n gwbl glir rhwng smyglo pobl a cheiswyr lloches, lle ceir dryswch yn aml ynghylch y termau hyn.  

 

2.  Swydd, cylch gwaith a chapasiti’r Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth

 

2.1 Ers cael ei benodi, mae’r Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth presennol wedi creu cysylltiadau cadarn ag ystod eang o unigolion a sefydliadau, yn sefydliadau datganoledig statudol ac anstatudol a Sefydliadau Anllywodraethol ledled y DU, er mwyn creu mwy o ymwybyddiaeth a chydgysylltu gweithgareddau unedig i fynd i’r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod yn rheolaidd â Swyddogion o’r Swyddfa Gartref, y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a phartneriaid eraill y DU i drafod a rhannu arferion da.

 

2.2 Mae Grŵp Arwain ar Atal Caethwasiaeth Cymru wedi cael ei sefydlu i roi arweiniad strategol. Mae Cynllun Cyflawni wedi cael ei ddatblygu i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chaethwasiaeth. Rwyf wedi cadeirio’r Grŵp Arwain, sy’n cynnwys uwch gynrychiolwyr o bartneriaid datganoledig a heb eu datganoli, a Sefydliadau Anllywodraethol. Hwn yw’r unig grŵp o’i fath yn y DU. Unwaith eto, mae Cymru yn arwain y ffordd.

 

 2.3 Mae Cynllun Cyflawni Grŵp Arwain ar Atal Caethwasiaeth Cymru wedi datblygu’r amcanion strategol canlynol er mwyn llywio eu gwaith:

 

 

 2.4 Fel sail i gyflawni Amcanion Strategol y Cynllun Cyflawni, ac i adeiladu ar lwyddiant Grŵp Ymgynghorol Gwent ar Atal Caethwasiaeth, mae Fforymau Atal Caethwasiaeth wedi cael eu sefydlu ar gyfer Caerdydd, De Cymru a’r Bae Gorllewinol. Pwrpas y Fforymau hyn yw rhannu arferion da yng nghyswllt gwybodaeth/deallusrwydd a chyflwyno mentrau lleol. Mae Fforymau Atal Caethwasiaeth yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ar gyfer ardaloedd Gogledd Cymru a Dyfed-Powys.

 

 2.5 Yn yr adroddiad blynyddol cyntaf gan y Grŵp Gweinidogol Rhyngadrannol a gyflwynwyd i’r Senedd yn 2012, tynnwyd sylw at y ffaith bod casglu data a rhannu gwybodaeth yn ddau faes allweddol ar gyfer gwella a gwaith yn y dyfodol er mwyn deall lefel caethwasiaeth yn y DU. Fel y nodwyd yn gynharach, rwyf yn aelod o’r Grŵp hwn. Mae’r Grŵp yn cynnwys Strategaeth Masnachu Pobl Llywodraeth y DU a chydymffurfiaeth y DU â gofynion yr UE a gofynion rhyngwladol. Hefyd, mae fy Nghydgysylltydd Atal Caethwasiaeth wedi cael ei gyfethol yn aelod o ‘Grŵp Data Gorchwyl a Gorffen’ Grŵp Strategol ar y Cyd y Swyddfa Gartref, sy’n datblygu’r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer y DU.  

 

2.6 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.3 uchod, mae’r angen i gael sylfaen dystiolaeth gadarn wedi cael ei gydnabod ac wedi cael blaenoriaeth yng Nghymru. Credir bod y ffigur presennol o 50 o atgyfeiriadau a gofnodwyd yn 2013 gan ddata Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol (MCC) Canolfan Masnachu Pobl y DU yn danamcangyfrif sylweddol o raddfa’r broblem yng Nghymru. Fodd bynnag, mae data 2013 yn dangos cynnydd o 47% ar 34 o atgyfeiriadau yn 2012, sy’n debygol o gael ei briodoli i well ymwybyddiaeth a’r ffaith bod yr Heddlu’n chwarae rhan fwy rhagweithiol yn yr ymchwiliadau i gaethwasiaeth. 

 

2.7 Fis Mawrth 2013, cyflwynodd fy Nghydgysylltydd Atal Caethwasiaeth achos a sicrhaodd gytundeb gan Grŵp Adolygu MCC y Swyddfa Gartref i Sefydliadau Anllywodraethol Cymru, Bawso a Llwybrau Newydd gael eu cydnabod fel sefydliadau Ymatebwyr Cyntaf. Y bwriad drwy roi’r rôl hon i ddau Sefydliad Anllywodraethol yw sicrhau y bydd gan oroeswyr caethwasiaeth hyder i’w cyfeirio eu hunain at y MCC.

 

2.8 Yn ogystal â darparu i’r goroeswyr hyn gefnogaeth a sicrheir drwy broses y MCC, bydd y data a geir o’r achosion hyn yn darparu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i ddwyn y troseddwyr i gyfiawnder ac i helpu hefyd gyda chreu sylfaen o dystiolaeth.  O blith y 50 o achosion y rhoddwyd gwybod i’r MCC amdanynt yn 2013, cyfeiriwyd naw achos gan Bawso a dau achos gan Lwybrau Newydd.  O ystyried na fu i’r naill sefydliad na’r llall ddechrau cyfeirio tan fis Ebrill 2013, mae’n amlwg eu bod wedi cael effaith nodedig a buan.  Mae eu cyswllt wedi cyfrannu’n sicr at roi hyder i oroeswyr eu cyfeirio eu hunain at y broses MCC, a bydd eu cefnogaeth barhaus yn hanfodol.

 

2.9 Mae caethwasiaeth yn cael ei ystyried gan lawer fel ‘trosedd cudd’ a nifer yr achosion a gyfeirir at broses y MCC a’r System Cyfiawnder Troseddol yw’r unig brif gyfresi data a ddefnyddir yn y DU.  Mae creu sylfaen o dystiolaeth am raddfa masnachu caethwasiaeth yng Nghymru yn un o amcanion strategol y Grŵp Arwain. Mae’r Cydgysylltydd yn gweithio gyda phartneriaid i lunio prif gyfresi data a chyfresi data eilaidd i sicrhau gwybodaeth well am lefel y caethwasiaeth yng Nghymru.

 

2.10 Mae’r Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o Grwpiau Llywodraeth y DU, Bwrdd Lleihau Bygythiadau’r DU, Bwrdd Strategaeth Masnachu Pobl y DU, Grŵp Strategaeth ar y Cyd y Swyddfa Gartref (Sefydliadau Anllywodraethol), Grŵp Adolygu Goruchwyliaeth y MCC y Swyddfa Gartref a Fforwm Rhannu Gwybodaeth am Fasnachu Plant y Swyddfa Gartref.

 

2.11 Mae’r Heddlu wedi cydnabod bod achosion o gaethwasiaeth yn gymhleth i ymchwilio iddynt ac mae’r Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth wedi gweithio gyda’r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a sefydliadau partner eraill i ddatblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer Uwch Swyddogion Ymchwilio (USY). Mae’r rhaglen ddeuddydd, sy’n cael ei chyflwyno o ‘Ganolfan Hydra’ ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, yn cael ei hehangu i gynnwys USY, gyda Heddlu De Cymru i ddechrau ac wedyn i’r tri Heddlu arall yng Nghymru. Mynychwyd y cwrs cyntaf gan 12 ymgeisydd. Mae Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu wedi cydnabod y rhaglen hyfforddi fel arfer da a bydd ar gael ar gyfer ei rhaeadru ledled y DU.

 

2.12 Mae’r Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth yn gweithio hefyd gyda chydweithwyr ar fenter o dan arweiniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyflwyno Timau Ymchwilio ar y Cyd ar gyfer achosion o gaethwasiaeth. Ymhlith y partneriaid eraill mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr Heddlu, Adran Mewnfudo’r Swyddfa Gartref, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Awdurdod Trwyddedu Gangfeistri, Bawso a Llwybrau Newydd. Y nod yw llywio’r gwaith o ymchwilio i achosion drwy sicrhau ymgysylltu buan â Gwasanaeth Erlyn y Goron.  Hefyd, mae’r manteision yn cynnwys datgan cyfleoedd i atafaelu asedau o dan y Ddeddf Enillion Troseddau, cefnogi ac amddiffyn tystion a rhannu arferion da.

 

2.13 Fis Rhagfyr 2013, aeth Fforwm Atal Caethwasiaeth Caerdydd ati i gynnal eu Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaeth beilot gyntaf ar gyfer Atal Caethwasiaeth ac, wedi adborth cadarnhaol, mae’r broses hon yn cael ei defnyddio ar gyfer yr holl achosion yn y dyfodol sy’n ymwneud â dioddefwyr posibl caethwasiaeth yn ardal Caerdydd. Arweinir y Gynhadledd gan Bawso ac mae’n cynnwys nifer o bartneriaid amlasiantaeth. Bydd yr arfer da hwn yn cael ei raeadru ledled Cymru.

 

 

3.  Rôl Awdurdodau Lleol mewn adnabod masnachu pobl

 

3.1 Mae gan Awdurdodau Lleol rôl arwain bwysig i’w chwarae o ddydd i ddydd yn eu cymunedau yng nghyswllt caethwasiaeth ac, mewn sawl achos, hwy sydd yn y lle gorau i adnabod arwyddion o gaethwasiaeth lle mae’n digwydd. Mae ein rhaglen hyfforddiant ymwybyddiaeth yn cael ei chyflwyno ledled Cymru a bydd yn sicrhau bod yr ymarferwyr rheng flaen yn deall beth yw achosion o gaethwasiaeth ac yn hyderus i ddelio â hwy a rhoi gwybod amdanynt.

 

3.2 Ar lefel strategol, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Mohammed Mehmet, yw arweinydd Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus ar Atal Caethwasiaeth.  Mae Mr Mehmet yn hybu’r gwaith sydd ar droed ar Ynys Môn ymhlith Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a bydd hwn yn cael ei raeadru i Brif Weithredwyr eraill ledled Cymru.  Mae’r rôl ‘Hyrwyddo’ hon yn cynnwys cadarnhau’r ymwybyddiaeth o adroddiad SOLACE 2009 ‘Rôl Awdurdodau Lleol mewn rhoi sylw i fasnachu pobl’ i Brif Weithredwyr eraill Awdurdodau Lleol Cymru.

 

3.3 Cefnogodd Mr Mehmet Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, sef Mr Richard Parry-Jones, gyda chais llwyddiannus i Gronfa Gydweithredol Ranbarthol Llywodraeth Cymru i gyllido Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru. Penodwyd Cydgysylltydd Gogledd Cymru, Jim Coy, fis Tachwedd 2013. Hoffwn weld ystyriaeth yn cael ei rhoi i benodi Cydgysylltwyr Atal Caethwasiaeth Rhanbarthol ledled Cymru, drwy bartneriaethau rhwng Awdurdodau Lleol, yr Heddlu a rhanddeiliaid eraill.  Gellid defnyddio’r Ddeddf Enillion Troseddau i gyllido’r swyddi hyn, oherwydd mae defnyddio enillion caethwasiaeth yn ymddangos yn briodol a chyfiawn.

 

3.4 Mae’r Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth, ar y cyd â Chydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u lleoli yn y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, yn cyflwyno hyfforddiant i greu mwy o ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth, gan egluro sut mae rhoi gwybod am achosion a sut mae cyfeirio goroeswyr i Ganolfan Masnachu Pobl y DU gan ddefnyddio’r Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol. Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei gyflwyno i ymarferwyr rheng flaen ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol, Amddiffyn Plant ac Oedolion Agored i Niwed, Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd ac Adrannau rheng flaen allweddol eraill.  Rwyf yn cyfrannu £50,000 y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf (2014-15 a 2015-16) i ariannu’r naw swydd Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol, er mwyn mynd ati i gefnogi'r gwaith o fynd i'r afael â chaethwasiaeth a thrais ar sail anrhydedd yng Nghymru.   

 

 

4.  Creu mwy o ymwybyddiaeth

 

4.1 Amcangyfrifir fod 21 miliwn o bobl ar hyd a lled y byd yn gaethweision ar hyn o bryd a dyma’r diwydiant troseddol sy’n tyfu gyflymaf yn y byd a’i werth yn £45 miliwn.

 

4.2 Mae caethwasiaeth yn cael ei ddisgrifio’n aml fel ‘trosedd cudd’ a’r farn gyffredinol yw nad yw’n digwydd yma yng Nghymru.  Fodd bynnag, gwyddom fod caethwasiaeth yn digwydd yma – yn ein dinasoedd, ein trefi a’n hardaloedd gwledig.  Rwyf wedi cyfarfod goroeswyr yng Nghymru ac wedi gwrando ar eu profiadau erchyll a chlywed am eu dioddefaint. 

 

4.3 Mae creu mwy o ymwybyddiaeth yn un o flaenoriaethau Cynllun Cyflawni Grŵp Arwain ar Atal Caethwasiaeth Cymru.  Mae’r amcanion strategol yn cynnwys mentrau sy’n amrywio o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus i hyfforddiant penodol ar gyfer ein hymarferwyr a’n gweithwyr proffesiynol rheng flaen. Dyma ein blaenoriaethau ar hyn o bryd:

 

 

 

 

5.  Cyllid ar gyfer gwasanaethau cefnogi dioddefwyr

 

5.1 Darperir cyllid ar gyfer gwasanaethau cefnogi dioddefwyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi cael contract i ddarparu’r gwasanaeth ar gyfer Cymru a Lloegr.

 

5.2 Yng Nghymru, mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi is-gontractio Bawso i ddarparu gwasanaethau o’r fath. Mae gan Bawso swyddfeydd rhanbarthol ledled Cymru a chan ei fod yn sefydliad Ymatebwyr Cyntaf y MCC, mae ganddo brofiad o ddarparu cefnogaeth i oroeswyr.

 

5.3 Er mwyn cael y gefnogaeth hon, dylid nodi bod rhaid i oroeswyr eu cyfeirio eu hunain yn wirfoddol a chael eu derbyn yn rhan o broses y MCC.  Wedyn mae gan y goroeswyr hawl i gyfnod adfer a myfyrio penodol o 45 diwrnod, sy’n cynnwys y canlynol:

 

 

5.5 Os na chaiff sefyllfa’r goroeswr ei datrys ar ôl 45 diwrnod, bydd yn cael ei gyfeirio at yr Awdurdod Lleol perthnasol am gefnogaeth barhaus.

 

5.6 Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyllido ‘Prosiect Diogel’ Bawso yng Ngogledd Cymru ers 2010, sy’n darparu llety diogel a chefnogaeth i oroeswyr caethwasiaeth. Yn fwy diweddar, mae’r prosiect wedi ehangu i gefnogi mwy o fenywod yng Ngogledd Cymru a De Ddwyrain Cymru.  Erbyn hyn, mae’r prosiect yn darparu 13 uned o lety diogel ac 20 uned allgymorth ledled Cymru.  Yn ychwanegol at gyllido costau sefydlu’r prosiect, gan gynnwys cyfalaf o £164,484 ar gyfer prynu’r adeilad, mae cyllid refeniw parhaus o £74,000 yn cael ei ddarparu.